Bydd draig fawr, chwedlonol yn croesawu disgyblion yn Academi Gynradd Eglwys Loegr Eglwys San Mihangel yng Nghaerwysg yn ôl i'r ysgol ym mis Medi.
Mae'r ddraig yn rhychwantu'r ffordd y tu allan i'r ysgol a hi yw'r gyntaf o'i bath yn Nyfnaint.
Mae'r ddraig liwgar wedi'i chynllunio i arafu traffig.
Bydd yn annog pobl sy'n gyrru i fod yn fwy ymwybodol o bobl sy'n cerdded ac yn beicio, i wneud y lle y tu allan i'r ysgol yn fwy diogel.
Marcio cwblhau prosiect diogelwch ar y ffyrdd
Rydym wedi gweithio gyda Chyngor Sir Dyfnaint, yr ysgol a'r gymuned leol ar brosiect diogelwch ar y ffyrdd am ddwy flynedd.
Mae gosod dyluniad y ddraig yn nodi cwblhau'r prosiect.
Esboniodd James Cleeton, Cyfarwyddwr 黄色app De Lloegr:
"Bwriad cynllun y ddraig yw dangos i bobl sy'n gyrru eu bod yn mynd i mewn i ardal ysgol arbennig, felly dylent yrru gyda gofal ac ystyriaeth ychwanegol.
"Mae'r math hwn o fesur tawelu ffyrdd wedi bod yn llwyddiannus ar draws y DU ac Ewrop. Mae tystiolaeth o'r prosiect blaenorol yn dangos bod dyluniadau fel hyn yn dylanwadu'n gadarnhaol ar ymddygiad gyrru drwy, er enghraifft, arafu cyflymderau.
"Mae cyflymder traffig modur arafach yn gwneud ffordd yn fwy diogel i bobl sy'n cerdded, beicio neu'n sgwtera.
"Mae'r gosodiad wedi'i amseru'n dda i gefnogi teuluoedd sydd wedi dewis y dulliau teithio llesol hyn yn ystod y cyfnod clo."
Fideo a grëwyd gan Devon County Council
Deall pryderon diogelwch a dod o hyd i atebion
Daeth y dyluniad i fodolaeth ar 么l cyfres o weithdai gyda'r ysgol a'r gymuned leol.
Roedd y gweithdai yn archwilio pryderon diogelwch ar y ffyrdd a rhwystrau lleol i gerdded a beicio. Fe wnaethon nhw hefyd greu syniadau ar gyfer atebion, gan gynnwys gwaith celf y ddraig.
Profwyd dyluniad y ddraig mewn treial ym mis Tachwedd 2018 a chawsom adborth cadarnhaol.
Cytunodd 70% o'r ymatebwyr i'n harolwg y byddai'n gwneud y stryd yn fwy diogel.
Cefnogi teuluoedd i ddewis teithio llesol
Mae t卯m y prosiect yn gobeithio y bydd y ddraig yn cefnogi teuluoedd i ddewis teithio llesol ar gyfer y rhediad ysgol. Dylai arafu cyflymder traffig helpu pobl i deimlo'n fwy diogel i fod ar droed, sgwter neu feic.
Dywedodd Karen Leach, Pennaeth Dros Dro Academi Gynradd St Michael's C of E University:
"Rydym bob amser wedi bod yn falch iawn o weithio gyda 黄色app. Mae'r plant wedi bod yn gyffrous i ymgysylltu 芒 dylunio'r ddraig ar gyfer y gosodiad hwn.
"Bydd cymuned Sant Mihangel bob amser yn ymgysylltu ac yn cefnogi prosiectau fel hyn, a fydd yn galluogi ein plant i deithio'n weithredol i'r ysgol yn ddiogel."
Ymgorffori diwylliant o deithio llesol
Dywedodd y Cynghorydd Stuart Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Dyfnaint sy'n gyfrifol am seiclo:
"Mae'r prosiect cyffrous hwn yn ategu'r gwelliannau diweddar i'r llwybr beicio E3 sy'n rhedeg drwy'r ardal hon.
"Gyda'i gilydd, byddan nhw'n helpu teuluoedd a'r gymuned ehangach i gerdded a beicio'n ddiogel, nid yn unig wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo, ond yn ymgorffori diwylliant o deithio llesol o fewn y ddinas yn y tymor hir.
"Bydd hyn yn helpu i ddarparu buddion iechyd a gwella'r amgylchedd lleol."
Ymddiriedolaeth Diogelwch y Ffyrdd sy'n ariannu'r prosiect. Darparodd Cyngor Sir Dyfnaint gyllid cyfalaf a chefnogaeth mewn nwyddau.
Nod y prosiect oedd ceisio atebion arloesol, cost isel i fynd i'r afael 芒 phryderon diogelwch ar y ffyrdd.
听